Atgyweirio Ysgubor Draddodiadol Gymreig
Rydym yn falch i rannu cyfres o luniau yn manylu y broses o adfer ysgubor draddodiadol a oedd wedi'i difrodi'n ddifrifol. Dros y degawd diwethaf, mae Llechen Lân wedi datblygu o fod yn gwmni toi yn bennaf, i ddarparu: sgiliau llechi arbenigol megis cladio addurniadol, gwaith coed strwythurol, adnewyddiadau mewnol a rheolaeth prosiectau.
Mae'r prosiect hwn yn Garreg, Llanfrothen drws nesaf i'n cladio gwalch y pysgod. Cafodd yr ysgubor, a ddefnyddir fel storfa gan Ystâd Brondanw, ei difrodi'n ddifrifol mewn storm ddwy flynedd yn ôl. Roedd y to wedi'i ddinistrio'n llwyr ac roedd difrod helaeth i'r gwaith cerrig. Rydym wedi bod yn gweithio dipyn yn ddiweddar gyda'n ffrindiau yn Gwaith Cerrig O. Morris, sydd â'r sgil brin o atgyweirio gwaith carrig traddodiadol wrth gadw ei gymeriad brodorol gwreiddiol. Daeth Osian a'i gwmni drosodd o Ddolgellau i atgyweirio waliau'r ysgubor a ddifrodwyd, a wal dalcen yr ysgubor gyfagos, a oedd hefyd wedi'i beryglu gan ddisgyniad y goeden.
Ar ôl gorffen y waliau a'r walbladau, roedd o’n ôl i'r gweithdy i wneud y cyplau a'r trawslathau, gan ddefnyddio pren lleol gan Gwynedd Mobile Milling. Yna roedden ni wrth ein bodd yn cael cymorth ffrind ffermio a'i dele-handler i osod y trawstiau ffynidwydd Douglas yn eu lle - mae'n arbennig iawn bod yn rhan o gymuned fach yng Ngwynedd sy'n dal i ffynnu ar dynnu at ei gilydd fel hyn.
Yna gosodon ni'r ceibrau a'r batenni ac roedd hi'n amser i’r gorchudd olaf: llechi newydd Cwt y Bugail o Flaenau Ffestiniog - mor lleol a maen nhw'n dod. Erbyn hyn, roedd pethau wedi dechrau cynhesu - gyda thymheredd y llechi mor uchel â 61 gradd Celsius! Mawr glod i'r tîm cyfan am aros yn ddiogel, wedi'i hydradu ac yn effeithlon dan amodau amgylcheddol heriol.
Ma’i wedi bod yn bleser mawr bod yn rhan o roi un o hen ysguboriau traddodiadol Eryri yn ôl at ei gilydd yn y ffordd mae’n haeddu. Diolch yn fawr i Ystâd Brondanw am y cyfle.