03/10/2026
Lloches bws, y Garreg
Fel cwmni adeiladu o Lanfrothen, Gwynedd, roedden ni yn Llechen Lân wrth ein bodd i gael y cyfle i gwotio am adeiladu lloches bws ar gyfer ein cymuned ein hunain yn y Garreg, Llanfrothen.
Roedden ni'n falch iawn i gael gweithio unwaith eto gyda phenseiri Chris Wilderspin, gan weithio'n agos ochr yn ochr â chynghorwyr cymuned i ddatblygu dyluniad sy'n adlewyrchu hanes pensaernïol, treftadaeth llechi a graen amaethyddol ein cymuned.
Mae'r lloches bws ar safle'r hen fwthyn ‘Tyrpeg’ a gafodd ei ddymchwel rywbryd yng nghanol yr ugeinfed ganrif er mwyn lledu'r ffordd. Roedd yn dasg fawr creu adeilad na fyddai'n tynnu oddi ar dreftadaeth bensaernïol arwyddocaol y pentref, sydd wedi'i chadw mor dda gan Ymddiriedolaeth Clough Williams Ellis. Credwn fod gan y lloches ecsentrigrwydd y byddai Clough wedi'i gymeradwyo, heb gyfaddawdi ar ei ymarferoldeb!
Gyda phob swydd, yng Ngogledd Cymru a thu hwnt, ein nod yn Llechen Lân yw adeiladu cymeriad naturiol - creu adeiladau sy'n pwysleisio rhinweddau'r lleoliadau rydym yn gweithio ynddynt. Rydym yn cymryd gofal mawr i ddod o hyd i ddeunyddiau naturiol a thraddodiadol, yn gweithio gyda dull empathig i gwsmeriaid a'n tîm ac yn parhau i ddathlu a datblygu sgiliau a chrefftwaith treftadaeth. Rydym wrth ein bodd â'r syniad nad "addoli lludw yw traddodiad, ond cadwraeth tân" (Gustav Mahler) ac mae creu adeilad sy'n defnyddio ein sgiliau fel toewyr a fframwyr pren Cymreig i ddiwallu angen cyfredol mewn lleoliad traddodiadol wedi bod yn gyfle gwych i roi'r egwyddor honno ar waith.
Diolch yn fawr i gyngor cymuned Croesor, Llanfrothen a Rhyd am ddyfarnu'r contract i ni a bod yn gwsmeriaid gwych i weithio gyda.
Mae Llechen Lân yn cynnig gwasanaethau mewn pedwar maes:
Prosiectau gwaith coed crefftus fel grisiau, gatiau a gwelyau
Toeau a chladin llechi, gan gynnwys gwaith pren
Adeiladau allanol pwrpasol, fel swyddfeydd gardd, cabanau, cytiau bugail, sawnâu (a llochesi bysiau!)
Adnewyddu tai cyfan - arwain ar gydlynu prosiectau gan dynnu ar ein rhwydwaith o gyflenwyr dibynadwy (dim ond un neu ddau slot ar gael y flwyddyn)
Ffoniwch 07774805231 gydag unrhyw ymholiadau neu defnyddiwch y ffurflen ymholiadau ar ein gwefan.
17/01/2025
Llechi Cymru I Welsh Slate
Fel rhan o’r gwaith i hybu statws treftadaeth byd UNESCO Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, gofynnwyd i ni siarad am ein defnydd o sgiliau traddodiadol gan Llechi Cymru Welsh Slate. Yng ngwanwyn 2025 byddwn yn cynnal cyfres o sesiynau torri llechi mewn ysgolion lleol.
Cwrs Fframio Pren
Bydd Ieuan a Dwyryd yn mynychu cwrs fframio pren dwys ym mis Mai 2024.
https://www.hewnwood.co.uk/courses
Bwrsari Crefftau Treftadaeth
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Llechen Lân wedi ei ddewis ymhlith llond llaw o grefftwyr traddodiadol ledled y wlad i dderbyn bwrsariaeth Crefftau Treftadaeth.
https://heritagecrafts.org.uk/training-bursaries-awarded-2023/